Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad, llu o gywyddau'r hwn sy'n llygru y neb a'u darlleno, y maent rhy faswaidd i gael eu cyhoeddi gan neb yn yr oes hon. Felly nid oes fawr bwys i'w roddi ar wên na gwg y Lewis Morris. Ond er ei feirniadu o hono ef arwed, gohebai âg ef yn achlysurol, ac ysgrifennodd ato rai llythyrau campus yn ol ei arfer.

Rhaid fod syniadau Ieuan Brydydd Hir lawer uwch am dano; ac, heb os, beth gonestach. Pan yn ysgrifennu at Risiart Morus i'w annog i ddwyn allan lyfrau neilltuol, megis "Y Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd," dywedai,—

"Os yw'r drafferth yn rhy fawr i chwi olygu y wasg yn y cyfryw orchwyl dyma Dewi Fardd o Drefriw a wnai y tro, tan eich golygiad chwi, gystal a neb a adwaen i. Yr wyf yn ei enwi ef yn benodol, oherwydd mai dyn geirwir, gonest ydyw, a mwy o wybodaeth yn yr iaith na nemawr o'i radd a'i alwad, er iddo gael llwyr gam gan Stafford Prys yn Amwythig, yr hwn ni argraffai mo'i lyfr modd ag yr oedd ef yn ewyllysio, namyn fel y gwelai ef yn dda ei hunan, herwydd y dywawd Dewi i mi tan daeru, y medrai ef argraffu Cymraeg mor gywir neu gywirach nag yntau."[1]

Wele ddwy farn dau a'i hadwaenai yn dda. Eu cysoni a thynnu un casgliad

  1. Llythyr 19, Gorff. 7, 1764.