Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teg am ei safle fel bardd a llenor i'n pwrpas presennol sydd anhawdd. A'r anhawsder pennaf yw, yn y rhagolwg ar yr un peth ei condemnid gan un ac ei cymeradwyid ef gan y llall. Rhaid addef fod Lewis Morris yn feirniad craff, er fod math o deimladau brwd balch yn peri iddo fod yn neilltuol lawdrwm ar bersonau ambell waith. Yn bennaf condemnio iaith ei brydyddiaeth a wnai'r Llywelyn Ddu, ac i ieithydd mor loew a meistrolgar yr oedd gweithiau Dewi Fardd yn israddol a chyffredin. Camgymeriad ar ei ran ef oedd eu gosod allan fel prydyddiaeth ddiles." Canys yr oedd lles barddoniaeth y ddau yn eu dysgeidiaeth foesol. Yn yr ystyr hon yr oedd barddoniaeth gyffredin Dewi Fardd yn llawer mwy llesol na chywyddau aflan ei feirniad, y rhai a ymddanghosasant, er syndod, ymhen llai na phedair blynedd, yn y "Diddanwch Teuluaidd," a'u hawdwr eto'n fyw. Drachefn, barn garedig yw eiddo'r Prydydd Hir. Wrth drigo yn Nhrefriw daeth i ddeall amgylchiadau gwasgedig Dafydd Jones, a ffurfiodd gyfeillgarwch âg ef. O hyn cymhellai ef i swydd y cai ychydig elw ariannol am ei chyflawni. Amlwg yw, oddi