Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth weithiau llenyddol Dafydd Jones, nad oedd ieithwr o'r radd ei gosodid allan gan y Prydydd Hir. Pa faint bynnag o gam a gafodd oddi ar law Stafford Prys, ni ragorodd ef ei hun arno pan yr ymgymerodd â'r gwaith o argraffu. Canys yr oedd y llyfrau a ddaeth allan o wasg Trefriw lawer gwaeth eu horgraff a'u hargraff na rhai gwasg yr Amwythig. phrofant nad oedd Dewi Fardd gwbl fedrus i gywiro'r wasg, heb ryw Risiart Morus i'w gywiro yntau.

O fwrw golwg frysiog o'r fath hon dros ei amgylchoedd, gwelir nad oedd amgylchiadau Dafydd Jones yn galonogol na manteisiol i waith llenyddol. Ni chafodd y nodded arferol gan lenorion goreu'r oes, oherwydd na chafodd yr addysg honno a'i gwnelai'n ffafrddyn yn eu golwg. Er fod y llenyddiaeth a gyhoeddodd lawer uwchlaw baledau cyffredin ei oes, a'r llenyddiaeth a gydredai â'r baledau, nid oedd yn codi at safon lenyddol llenyddiaeth ei amser. Oherwydd hyn ni chafodd yr ychydig gymorth ariannol a roddai Cymdeithasau'r Cymrodorion a'r Gwyneddigion, os oedd eu cefnogaeth hefyd rywbeth amgenach na geiriau caredig. Yr unig reswm a ellir roddi dros