Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei waith a'i lafur ydoedd ei wladgarwch. Ar un llaw yr oedd uwchlaw canwyr baledi'r ffeiriau, heb deimlo o ysbryd y Diwygiad, eto heb fod o'r dosbarth neillduol o lenorion, er ei holl gyfathrach â hwynt. Ond er na feddai eu dawn a'u safle, yr oedd ei wladgarwch fel yr eiddynt hwythau. A bu was ufudd yr ysbryd hwn yn ol ei allu, a llwyddodd yn fawr.

Yn y bennod hon yr ydym wedi ceisio bwrw golwg dros ei anfanteision, nodweddion ei amser, ei gysylltiad â phrif lenorion ei amser. Er wedi crybwyll ei safle fel llenor, bardd, a henafiaethydd, yr ydym wedi ei gadael yn ben agored. A chaiff y darllennydd yn gyntaf farnu ei safle yn ol natur a swm ei waith. Canys gwaith dyn a ddylai yn bennaf roddi iddo safle.