Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III. PWY OEDD DAFYDD JONES?

Y fath hud rhyfedd sydd yn nhroadau hanes. Nid rhyfedd i'r hen Gymry gwladgar weu eu hadgofion yn fabinogion rhamantus, ond swynol a thlysion er hynny. Adroddent newidiadau araf oesau eu tadau fel pe wedi digwydd yn eu hamser a'u hoes hwy eu hunain. Yr oedd eu dychymyg heb ei ddofi gan ddysg, na'i feichio hyd lesgedd gan helyntion bywyd. Yr oedd ffeithiau hanes eu hamser fel cymylau'r awyr, yn nofio mewn gorffennol dilan, difynydd. Gwedi hynny y profwyd y gwir mai goreu cof, cof llyfr. Llyfrau'r wlad oedd cof y trigolion; ac os nad oedd y goreu, yr oedd barod a defnyddiol. thuedd byw'n barhaus yng nghwmni chwedlau arwrol oedd troi'r genedl yn genedl o arwyr. Yn araf newidiodd pethau. Daeth y wasg i ysgafnhau baich cof, a rhoddi mwy o waith i ddeall segur. A daeth digwyddiadau cymdeithasol yn gerrig llamu'r anialwch hwn—cartref hud oesau coll. Am ganrifoedd bu'r genedl yn byw i amcanion gwleidyddol. Rhy-