Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feloedd, a son am ryfeloedd, oedd y post amser wrth yr hwn y rhwymid y rhes digwyddiadau eraill,—"Y peth a'r peth cyn neu wedi rhyw ryfel neu alanas llywodraeth. A bywyd masnach oedd ysbail rhyfel. Bu Llundain a'i Thŵr brenhinol, ei helyntion gwladol a chrefyddol, er pelled oedd pryd hwnnw, bron yn bob peth bywyd y wlad. Tu ol i lenni'r ffau wleidyddol honno y genid cynlluniau'r codi i fyny a'r taflu i lawr; a'r wlad fawr amgenach na rhyw fantais, yn bod at wasanaeth y rhai enillent y gamp yn y lotri wleidyddol. Treuliodd Cymru gannoedd o flynyddoedd o fywyd ofer. Gwir iddi fod beth mwy sefydlog na Lloegr; yr oedd ddigon toriaidd i aros wrth yr un post, er dioddef o achos hynny. Yr oedd yn y wlad ychydig fawrion yn clodfori'r brenin, ac ychydig feirdd yn eu clodfori hwythau. Yr oedd y beirdd a'r gwleidyddwyr fel rheol yng nghwmni eu gilydd; a chyfangorff y bobl y tu allan i'r cylch, heb fawr fwy amcan i'w bywyd na chynnal eu teulu a thalu'r rhent. Bu gwerin y wlad fyw a marw bron fel eu hanifeiliaid. Hyn oedd hanes Cymru am ddegau o flynyddoedd wedi amser Dafydd ab Gwilym a Thudur Aled. Mae'r newid