Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fawr, ond fyrred y tymor y dygwyd yr oll oddi amgylch,—dim ond megis doe. Prydain heddyw, nid yw onid cynnyrch dadblygiad un oes. Gwelodd Victoria o'i gorsedd bron fwy o newid na'i holl flaenoriaid ynghyd. Mae cyfnewidiadau lawer fel yn hwyhau amser, a dynion yn rhyfeddu eu bod wedi byw cyhyd, ac yn cofio pethau mor wahanol.

Mae cant a hanner o flynyddoedd er pan drigai Dafydd Jones yn Nhrefriw, a dim ond cant a hanner. Mor agos a phell! Mae'r mynyddoedd fel o'r blaen, er holl raib yr ystormydd fu'n ymladd eu brwydrau ar eu llethrau, yn unig fod tô arall o goed yn sefyll rhyngddynt a'r gwaethaf, a phlant y drydedd neu'r bedwaredd genhedlaeth yn bugeilio'r defaid. Mae'r goedwig oedd ar y dyffryn yn faes aredig. Rhedeg mae'r afon tua'r môr, ac fel bywyd yn ymgolli yn ei amcan, ond yn gwneyd llawer gwasanaeth ar y daith. Bu Lewis Morris yn holi am enwau ei "gleisiaid," ac yn chwenych ciniaw o'r "brwyniaid a wnaeth Sant Ffraid." Treiglo mae'r afon; ond aros mae'r bryniau, a bron wedi blino yn cynefino a thô ar ol tô o ddynion yn chwareu ar eu llethrau, ac wedi oes