Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ferr yn cilio a diflannu. Yn amser Dafydd Jones nid oedd yr holl wlad namyn nentydd tawel, mynyddoedd distaw, cartref ychydig wladwyr tawel, os nad tlawd. A Threfriw ei hun, nid oedd namyn "Caer-drws-nant," yn sel y mynyddoedd, ac yn gwylio dros drigolion y nentydd. Y pryd hwnnw yr oedd Llanrhychwyn fwy ei bri na Threfriw, megis hen ddinas fach yn cadw mewn cof ddull o fyw hanner cuddiedig yr hen dadau. Yn yr oes hen honno, yr oedd ambell gapel bach, diaddurn, yn cael eu codi draw ac yma, a dyrnaid o addolwyr ofnus a thlawd. Ceid ysgol uwchraddol ar gyfer pob sir; yn hapus yr oedd felly yn y rhan hon o'r Gogledd. A cheid ambell dwrr o blant yn ymgynnull yn hen ysguboriau'r tafarnau i ddysgu Cymraeg, o dan athrawon Gruffydd Jones: ac ambell un arall, a fedrai ar lyfr, a ddilynai eu hesiampl. Nid oedd oes y rheilffordd a'r pellebyr eto wedi gwawrio. Traul anfon llythyr oedd chwe cheiniog, a rhaid oedd teithio deng milltir i'w roddi dan sel cerbyd Llundain. Gwlad y cymanfaoedd, a hen wlad y cymanfaoedd, y diwygiadau a'r colegau, y gelwir Cymru heddyw. Ond yr oedd