Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwawr ei bore heb dorri'r adeg hon. Yr oedd y wlad fel heb ddeffro, a chymdeithas fel heb esgor ar ei bywyd ei hun. Cerddi'r ffair ac almanaciau'r flwyddyn oedd newyddiaduron y wlad. A chlochydd Trefriw oedd prif argraffydd Gogledd Cymru.

Profedigaeth ambell un a gais ysgrifennu cofiant yw gormod hanes. Yma prinder hanes yw'r trallod. Mae'r mân hanesion sy'n esbonio cymaint ar gymeriadau dynion wedi eu colli, ac wedi eu colli am byth. Y pryd hwnnw nid oedd ein llenorion wedi dechreu'r arfer hwylus. o groniclo eu hanes eu hunain, na chwaith wedi ymroi i'r gwaith o ysgrifennu cofiantau eu gilydd. Eu harfer hwy oedd canu clod y naill y llall pan yn fyw, a chanu un cywydd goffa. Cadw eu gwaith, ac nid eu hanes, oedd bwysig yn eu golwg. Bu gan y Diwygiad Methodistaidd law amlwg yn nwyn i fod yr arfer o ysgrifennu hanes a chofiantau.

Ac nid balchder mo hyn, ond ffurf ar ddyledswydd grefyddol. Trwy'r Diwygiad cafodd Cymru ddynion ag yr oedd elfennau eu cymeriad a ffeithiau eu bywyd yn gyfryw fel yr oedd cydwybod gwlad yn teimlo mai colled oedd eu colli.