Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prin yw'r hanes am Ddafydd Jones yn ein llyfrau safonol; prin ymhob man o ran hynny. Yr un ychydig hanes geir yn Eminent Welshmen" Williams, yn "Enwogion Cymru," ac yn y "Gwyddoniadur;" yr un yw eu clod, a'r un yw eu camgymeriadau. A hyn yw aflwydd hanes llenyddiaeth Gymreig, un camgymeriad a ddaw yn fuan yn gamgymeriad llawer. Oherwydd gwell gennym yfed y goferydd nac ymdreulio i gerdded y ffordd i lygad y ffynnon.

Ni wnaeth Ieuan Glan Geirionnydd a ddylasai i gadw yn wyrdd goffadwriaeth Dafydd Jones. Croniclodd Ieuan hanes gwledydd pell a phobl ddieithr i Gymru ei wlad. Dyddorodd ei ddarllenwyr â hanes anifeiliaid gwâr a gwyllt. Ond er ei fod wedi ei eni mewn rhandir swynol i fardd Cymreig, yn swn hudol draddodiadau am Lywelyn a'r ymroddgar Syr Thomas Williams, ni chofiodd gadw'n fyw hanes ei bobl ei hun. Yn ei amser ef yr oedd llawer o hanes Dafydd Jones ar gof gwlad. Gwelodd Ieuan, ei fab Ismael Dafydd, a chanodd iddo englynion coffa, gan deitlo'r tad yn Dafydd Sion Dafydd, yr enwog henafiaethydd."[1]

  1. Geirionydd, tud. 161.