Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Felly cafodd pob cyfleustra hamdden teg i fyned heibio, a'r llwch lonydd i guddio ei goffadwriaeth.

Yr oedd i Ddafydd Jones amrywiol enwau. Anhawdd cael gŵr mwy amrywiol ei enwau, os nad ei ddoniau hefyd. Ar y cyntaf galwai ei hun yn "Dafydd Jones, Antiquary." Ond ei arfer yn rhan olaf ei oes oedd "Dafydd Jones, Dewi Fardd;" ac yn fynych "Dewi Fardd" yn unig. Wrth rai o'i weithiau ceir Dewi ap Ioan.[1] Mae'n debyg mai ei enw llafar gwlad yn Nhrefriw oedd Dafydd Sion Dafydd; i raddau pery felly o hyd. Ei enw fel llenor heddyw yw Dafydd Jones o Drefriw. A pho fwyaf o ymchwil wneir i lenyddiaeth y ddeunawfed ganrif, mwyaf amlwg y daw'r enw hwn o hyd. Enw yw sy'n ennill ei safle. Ymddengys mai Lewis Morris a'i cyfenwodd Dewi Fardd, a balch oedd o'r bedydd barddol hwn. Ceir y nodiad canlynol yn y "Cydymaith Diddan," tud. 176,—" Dewi Fardd y'm cyfenwai Lewis Morris, Yswain, fi ymhlith beirdd." Hawdd gweled fod Lewis Morris yn frenin cylch neilltuol o feirdd yn ei am-

  1. Caerdydd MS. 84. Ph. 8393.