Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ser, a fod ei ffafrau megis eu heinioes iddynt. Mewn llythyr ato, dyddiedig Hyd. 14, 1757, geilw'r un gŵr ef yn Dafydd Sion."—" Gŵr gwann iawn oedd Mr. Wynne Cynhafal, ni fedrai gael mwy nag un subscriber i Ronwy, nac yr un (Duw'n helpio) i Dafydd Sion."[1] Llywelyn Ddu yn ddiau biau'r clod neu'r anghlod o'i alw "Bardd y Blawd Ceirch," yr hwn geir yn "Account of Manuscripts Dafydd Ellis, Criccieth." A chofnodwr enwau'r "Account" oedd y Llywelyn Ddu. A bu Goronwy ddaed a'i alw "Bardd y Blawd."

Pwy oedd ei rieni, a pha le ei ganwyd, sydd i raddau'n ddirgelwch. Ceir un awgrym am ei fam, sef fod Sion Dafydd Las yn ewythr iddo gefnder ei fam. Bardd teulu Nannau, a brodor o Lanuwchlyn, oedd y Sion Dafydd hwnnw. Bu farw yn 1694, wedi cefnu ei driugain oed; a ganwyd Dafydd Sion Dafydd ym mhen deuddeng mlynedd gwedi. Mae'r gwahaniaeth mewn amser yn lled chwithig, ond gall fod y berthynas er hynny. Cofnododd Dafydd Jones naw o

  1. Diddanwch Teuluaidd, tud. 184.