Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gywyddau y Sion Dafydd Las yn un o'i ysgriflyfrau,[1] ond nid yw hyn un prawf o'i berthynas.

Yn ei enw ei hun ceir awgrym am ei dad, sef mai Sion Dafydd oedd ei enw. Yn ol arfer yr amseroedd, daeth cyfenw ei dad iddo ef yn enw priodol, ac enw priodol ei dad iddo yn gyfenw. A chadarnheir hyn gan ei waith yn galw ei hun yn Dewi ab Ioan. Dywed Gwilym Lleyn mewn nodiad lled amwys,—

"Wyr iddo (Dafydd Jones), mab i Ismael Dafydd, yw Mr. John Jones, argraffydd, Llanrwst, yr hwn a ymestynodd yn ol i'w hen daid i gael ei ddau enw."[2]

Felly nid Sion Dafydd, fel yr awgrymir gan yr enw Dafydd Sion Dafydd, ond John Jones, oedd enw tad Dafydd Jones. Os hyn a amcanodd Gwilym Lleyn osod allan, rhaid y camgymerodd. Yr oedd math o reoleidd-dra yn newidiad yr enwau, a buasai'r newid beth mwy rheolaidd pe rhagluniaeth y nefoedd wedi

  1. Caerdydd MSS. 8393.
  2. Llyfryddiaeth y Cymry, tud. 450.