Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aberdâr, ceir y cofnodiad canlynol, a hynny yn gofnodiad yn llawysgrifen Dafydd Jones ei hun, yn ol a ddeallwn,[1]

"Dafydd Jones a anwyd yn y flwyddyn 1703, dydd Mawrth, mis Mai 4 dydd, yr haul yn 2A arwydd y Tarw a'r lleuad yn newid 4ydd, 8A. 4 mynyd o'r prydnawn. Ei eni ef yn y bore nghylch 11 ar gloch. Y lleuad yn 30 oed."

Mae llawer o ddelw Dafydd Jones ar yr uchod, sef ei gyfeiriadau seryddol a'r manylder yn nesgrifio amser y geni. Eto yr ydym yn ameu y cofnodiad. Un elfen dieithr ynddo yw "Dafydd Jones a anwyd," pan yn ddieithriad yr arferai Dafydd Jones, pan yn adrodd pethau o'r fath am dano ei hun, gyfeirio ato ei hun yn y person cyntaf. Hefyd nid ydym yn rhoddi llawer o bwys ar gofnodion y llyfr, oherwydd ceir ynddo gofnodiad o'r fath hyn," Achau ei fab Ismael Dafydd a fu farw 1735." Mae'r cofnodiad olaf hwn yn amhosibl, oherwydd ni anwyd i Ddafydd Jones blentyn hyd 1739, ac ni anwyd Ismael am dros ugain mlynedd.

Mae cân o'i eiddo yn y Blodeugerdd yn dwyn yr enw "Odlau'r Oesoedd."

  1. CYMRU, Medi, 1903.