Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn honno ceir y pennill rhyfedd a ganlyn,

"O'r holl oesau, hon yw'r ola,
Oer ddifwyna, ar ddaiar fane;
Er ys pum mil, seith gant rhigil
Sydd ar sigil, dreigl dranc:
Wyth o flwyddi, sydd heb amau
Hir faith adde, yw'r fath oed;
1708 mis Mawrth 25
Mawrth ugeinfed, dydd y pumed
Hyn o rified, i ni a roed;
Nis gwyr dynion nac Angylion
Na'r Mab tirion ond y Tad:
Y daw rhyfedd, derfyn diwedd
Ar bob mawredd, lwysaidd wlad.
Rheitiau gorchwyl, i ni ddisgwyl
Am ein harwyl yma yn hy;
Gan fyw'n dreulgar, drwy bur alar
Cyn mynd i garchar, daiar du."

Wedi darllen yr uchod drachefn a thrachefn nid oes gennyf ond un eglurhad arno, sef mai am ei oes ei hun a'i oedran y canai, ac mai dyddiad ei enedigaeth yw'r dyddiad ar ymyl y ddalen. Gwir mai enw o farddoniaeth aneglur yw'r pentwr y cloddiwn ein ffaith allan o hono, ac fod gwrthod gosodiad y CYMRU yn ymddangos yn hyfdra a diffyg barn, gan ei fod yn dwyn holl nodweddion tebyg i gronicliad gan Ddafydd Jones ei hun. Y