Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pethau tebyg hynny yw'r achos ein bod yn ymdrafferthu cymaint, yn lle gosod i lawr yn syml yr hyn a ystyriwn yn wir ffeithiau hanes. Bellach dyma hwynt. Yn ol y cofrestriad eglwysig geir ym Mangor, bu farw Dafydd Jones Hyd. 20, 1785. Drachefn, yn ol carreg ei fedd, claddwyd ef Hyd. 26, 1785, yn 77ain mlwydd oed. Rhaid felly mai yn 1708 ei ganwyd. Yn y goleu hwn yr ydym yn gwrthod cofnodiad yr ysgriflyfr a chredu cofnodiad y pennill, yr hwn gadarnheir gan y garreg fedd.

Tueddir ni i wrthod y syniad ei fod yn enedigol o Drefriw, eto ni feddwn fawr reswm dros ein tuedd. Pa bryd y daeth yno ac o ba le? Rhaid ei adael i ymchwilydd arall. Credaf mai ei gartref cyntaf yno, ac olaf hefyd, oedd Tan yr Yw, ac arferai ysgrifennu Trefriw yn "Dref-yr-Yw." Mae'r Yw" yno o hyd, fe allai heb ymddangos lawer hynach, yn taflu eu cysgodion ar ei fedd ac ar wyneb ei hen gartref. Y ffurf hon sydd ar yr enw yn rhai o'r hen gofrestriadau eglwysig, ond nid oes fawr goel i'w rhoddi ar orgraff y cofrestriadau, am y ceir ynddynt hwy Drefruw," a rhai dull-