Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau eraill hefyd. Mae'r chwedlau o ba le y daeth yn lluosog. "O'r Deheudir " ac o Ysbyty Ifan" yw'r tybiau mwyaf cyffredin. A gellir ychwanegu, er lluosogi tybiau, ardal Llanuwchlyn.

Os honno oedd cartref ei fam, nid amhriodol ceisio ei blwyfo yntau yno. Ni welais neb yn credu ei fod yn enedigol o Drefriw, a gall fod yr anghrediniaeth hon yn ddarn cywir o hanes. Eto mae awgrymiad neu ddau yn tueddu, yn bendant o ran hynny, i brofi ei fod enedigol o sir Gaernarfon. Yn ei gofrestriad fel aelod o Gymdeithas y Cymrodorion[1] nodir ef fel un genedigol o sir Gaernarfon.

Mae peth pwys i'w roddi ar y cofrestriad, oherwydd yr oedd aelodau'r gymdeithas yn selog, nid yn unig dros Gymru, ond dros eu hardaloedd—eu rhannau anwylaf hwy o honi. Yr oedd llawer o gydymgais iach rhwng y siroedd am anrhydedd.

Medd traddodiad, ond bloesg ei wala, mai teiliwr oedd wrth ei alwedigaeth. Ond clochydd Trefriw" ddywed cofrestriad y gymdeithas. Ni raid dadleu,

  1. Additional MSS. Amgueddfa Brydeinig, 15059.