Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallasai fod y ddau. Dyddorol hefyd fod clochydd Trefriw yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, a hynny pan oedd Lewis Morris yn gofalu am ei hanrhydedd; y gymdeithas y pechodd Goronwy gymaint wrth drin dybaco yn un o'i chynulliadau. Fel mae amser yn nychu rhagfarn i'w fedd, ac yn codi gwir fawredd i'r orsedd,—heddyw mae Goronwy yn fwy o anrhydedd i'r Gymdeithas nac a fu'r Gymdeithas iddo ef; ac am ei gynorthwyo, gwawdiodd y syniad o roddi cardod hyd yn oed iddo i dalu ei longlog i dir alltudiaeth. A phan ddaw pob peth ynghyd, bydd clochydd Trefriw yn fwy anrhydedd i'r Gymdeithas nac o anfri. Beth bynnag oedd ei alwedigaeth, amhosibl y rhoddai fawr amser iddi er cael trwyddi foddion cynhaliaeth. Tueddir fi i gredu y meddai ryw foddion cynhaliaeth ar wahan i'w enillion. Gwir fod ei amgylchiadau'n gwasgu; hawdd y gallasent wneyd er iddo feddu ychydig foddion ar wahan i unrhyw alwedigaeth gyffredin, megis clochydda neu gadw ysgol, oblegid collai gymaint o'i amser i lenydda, i chwilio'r wlad am hen ysgrif-lyfrau, ac i adysgrifennu'r rhai hynny. Wrth fwrw golwg dros lafur ei oes, y