Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llyfrau gasglodd, a gyhoeddodd, ac a ail ysgrifennodd, rhaid dweyd iddo weithio yn galed, pe hyn yn unig a wnaeth.

Cafodd well manteision addysg na chyffredin ei oes. Yr oedd yn ysgolhaig da yn yr oes honno. Medrai ysgrifennu Saesneg. Yr oedd ei lawysgrifen yn gelfydd a thlos, agos bod yn gampwaith felly. Bu'n ysgolfeistr, er yr addefwn nad yw hynny un prawf o ysgolheigdod, mewn oes yr oedd bod yn hen sowldiwr yn un cymhwysder i gadw ysgol.

Ail ysgrifennodd lawer o hen lawysgrifau y ddwy a'r tair canrif blaenorol iddo, a rhai o honynt yn nodedig anhawdd. Yr oedd hyn ynddo ei hun yn ysgolheigdod gwerth ymfalchio ynddo.

Methasom weled cofnodiad am ei briodas. Ond yng nghofrestriad bedyddiad y plant nodir ei wraig fel Gwen. Os ad—eryn a ehedodd o'i fro oedd ef, o bosibl mai bro ei gymar a'i denodd. Gall ei bod hi yn un o frodorion Trefriw. Syndod na welodd yn briodol ei henwi. Er iddo gadw rhestr fanwl o'i blant a gofalu am hysbysu mai ei blant ef Dafydd Jones