Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddynt, ni soniodd air am eu mham. Hawdd y gallasai roddi iddi'r deyrnged hon o barch; o herwydd rhaid y bu iddo'n wraig dda. Ar ysgwyddau pwy ond ei hysgwyddau hi y syrthiodd gofalon y teulu pan dramwyai ef y wlad yn ei ymweliadau llenyddol? Tueddir fi i gredu, pa le bynnag y priododd, mai'r lle bu fyw gyntaf oedd Trefriw, a Than yr Yw yn Nhrefriw. Yno y bedyddiwyd ei blant, a cheir rhagymadrodd un o'i lyfrau wedi ei leoli "Tan yr Yw, Mai 4, 1745." Mae'n debyg iddo briodi yn niwedd 1737, neu ddechreu 1738. Ganwyd ei blentyn cyntaf Chwefror 27, 1738—9, fel y cofnoda ef yr amgylchiad.

Wele gopi o gofrestr ei blant, copi o gofrestr yn ei lawysgrifen ef ei hun ar un o ddail gwynion "Cydymaith yr Eglwyswr yn ymweled a'r Claf." Ar ben wyneb ddalen yn y llyfr y mae wedi ei ysgrifennu ganddo hefyd,—"David Jones a Biau'r Llyfr 1754." Ysgrifennir hi air yn air a nod am nod fel ei ceir yn ol llaw yr hen lenor doniol.