Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV. BYWYD A BUCHEDD.

Ym mlynyddoedd casglu a chyhoeddi'r Flodeugerdd, ceir amryw awgrymiadau am amgylchiadau'r casglydd. Yr oedd adeg ei lwyddiant llenyddol, a thymor ei galedi, yr un adeg yn ei hanes.

Bu felly hefyd i lawer eraill. Cyhoeddi'r Flodeugerdd, yn ol ei farn ef, oedd ei orchest-gamp, ac yn hyn ni chamgymerodd. Ond: fe fu baich y gwaith a baich y teulu bron ormod i'w ysgwyddau. Colled o ugain punt fu cyhoeddi'r Flodeugerdd. Oddeutu'r adeg hon, ysgrifennodd Lewis Morris ato lythyr, yr hwn, oherwydd ei gyfeiriadau a'i werth llenyddol, a adysgrifenwn,—

"Dewi henfardd, hardd, hirddysg
Chwiliedydd beunydd am bysg.

"Llundain, Hydr. 14, 1757.

Dyma eich Llythyr yn achwyn ar gŵn Caer, chwiwgwn oeddynt erioed. Mi welais Awdl a wnaeth L. Glyn Cothi iddynt, am dorri ei dŷ, a dwyn ei eiddo.

Dacw Ronwy fardd yn myn'd i Virginia i ganu i'r Indiaid, ac i fwytta Tobacco, ac i gael vnghylch 300l, yn y flwyddyn am ei boen, dan