esgus bod yn feistr rhyw ysgol fawr sydd yno. Felly mid rhaid iddo wrth Subscribers.
Gwr gwann iawn oedd Mr. Wynne Cynhafal, na fedrai gael mwy nag un Subscriber i Ronwy, nac yr un (Duw'n helpio) i Dafydd Sion. Ni wyr yr Hwch lawn mo wich y wag. Wele hai, ni cha'r mwya' ei arian ond edrych arnynt a'u teimlo, ac yna marw fel anifail, a'i enw gyd âg ef, felly planhigion y ddaear a flagurant y bore, ac a wywant brydnhawn. Ond nid felly Gwilym Wynn, canys Bardd yw efe; ond, odid, Bardd a fo da wrth fardd arall. Gwr o'r mwynaf yw Gwilym, ond ei fod ddiog iawn am ddangos ei dalent, yr hon sydd odidog.
Gwell i chwi brintio rhyw Ysgafnbethau a Hanes y Gwragedd, &c., yn yr Amwythig, neu rywle yn eich cymdogaeth na myn'd i ymhel a phrintwyr Llundain, eisiau na byddech eich hunan yn canlyn arnynt. Ni thal i chwi brintio dim yn y Werddon; oblegid bydd yn anodd eu cael i Frydain Fawr, oblegid y Cyfreithiau sydd yn erbyn hynny, a'r Swyddogion yn eu dâl pan ddelont drosodd.
Diolch am yr englyn i Syr Gruffudd Llwyd. Mi a adwaen gastell Dinorwig yn Llanddeiniolen; ond nid wyf yn cofio un llys arall yno.
Do, chwi gollasoch un llythyren yn yr Englyn; sef, Treuliw yn lle Treuliwr, ac y mae'r braich ddiweddaf yn rhy hir o sillaf; fe ddylasai ddywedyd,
'Pen trin treuliwr gwin a gwyrdd.'
Mab oedd y Syr Gruffudd Llwyd yma i Rys ap Ednyfed Vychan, a wnaed yn Varchog gan y Brenin Edward y 1af, am ddyfod â'r newydd