Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo i Ruddlan o enedigaeth y Tywysog Edward ynghastell Caernarfon; a chwedi hynny a droes yn erbyn y Saeson.

Mi wyddwn fy hun, ped fuasai Hywel Gwaederw yn tewi â sôn, fod y pysg yn afon Gonwy; ac nid y pysg sydd arnaf fi eisiau, ond eu henwau a'u hanes, trwy na bawn yna i gael cinio o frwyniaid a wnaeth Santffraid. Ymofynwch pa sawl enw sydd ar Leisiedyn, o sil y gro neu sil y gog, hyd at eog, yn wryw ac yn fenyw; ac a elwir un rhyw o'r Gleisiaid yna yn Benllwyd? a'r lleill yn Chwiwell, Carnog, Maran, Adfwlch, Gaflaw, Gwynniad hâf, Gwynniaid y gog, Brithyll mor, neu Brithyll brych, Silod brithion, brith y gro; a pha enwau eraill sydd yna ar y rhyw yma o bysgod heblaw hyn.

Nid oes yma ddim amser i roi i lawr ond hyn o'r Brygawthen yma; felly nos da'wch, a chofiwch fi at bawb o'r ffyddloniaid; sef y Beirdd rhadlon, diniwed, a garo eu gwlad, a'i hen gofion.

Eich gwasanaethwr,

LEWIS MORRIS."

Ni hoffwn i neb pwy bynnag synied yr amcanwn gwtogi clod teilwng y Morrisiaid. Parod ydym i roddi iddynt amgenach na'r clod traddodiadol presennol. Clod yw hwn a ddaeth i lawr oddi wrth ysgol o ddynion, Iolo Morgannwg ac Owen Myfyr, a welsant eu hunain fawredd eu gwaith, a lewed eu hymdrechion. fuont. O glod traddodiad ni raid ei