Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ragorach. Ond paham na wyddom trosom ein hunain? Pa bryd y cred llenorion yr oes hon, a gweithredu ar y grediniaeth honno, nas gellir ysgrifennu hanes llenyddiaeth Gymreig y ddeunawfed ganrif heb fod hyddysg yn llythyrau'r Morrisiaid? Esgeuluswyd eu holl waith yn fawr gan eu cofiantwyr diweddaf. Er y pethau hyn, rhaid fydd ysgrifennu aml ddarn o feirniadaeth finiog am danynt. hwythau. Mae'r megis y gwnaethant hwy i eraill yn gorfodi dynion i wneuthur felly iddynt hwy.

Mae'r llythyr uchod yn dinoethi'r drwg ddifwynodd feirniadaeth Lewis Morris, sef gwawd a diystyrrwch, yn codi o deimladau clwyfedig, teimladau glwyfwyd nid o achos, ond o falchder ei ysbryd ef ei hun. Camolodd "Ronwy," ond gwawdiodd ef hefyd. Yr oedd ysmygu yng Nghymdeithas y Cymrodorion yn fwy pechod yn ei olwg na chanu clod puteiniaid o'r tu allan. A phan gyhoeddir llythyrau'r Morrisiaid fe welir fod colli eu ffafr yn gymaint achos yng ngyrru Goronwy i alltudiaeth yr America ag oedd ei dlodi a diystyrrwch yr eglwys.

Mae llythyren ac ysbryd yr epistol