hwn yn awgrymu hanes. Pan yn ysgrifennu at uwchradd ei oes, aeth Lewis Morris o'i ffordd i wawdio Dafydd Jones. Ond os dibwys Dewi Fardd yn ei olwg, ysgrifennodd ato lythyr teilwng o hono ei hun. A chyhoeddwyd y llythyr hwnnw fel rhan o gasgliad o'i weithiau yn ei oes ef ei hun. A gyhoeddwyd ef heb yn wybod iddo? Prin. Pwnc yr ohebiaeth oedd cyhoeddi'r "Flodeugerdd;" fe allai fod Dafydd Jones wrth ymholi am argraffydd, yn anuniongyrchol yn ceisio ei nawdd i'r gwaith. Ar y pryd nid oedd ganddo lyfr arall yn cael ei ddarparu. Cadarnheir hyn gan y cyfeiriad wneir at hela subscribers. Daeth y Flodeugerdd allan ymhen blwyddyn a hanner, ac nid gormod hyn o amser yn yr oes honno i gasglu nifer gymedrol o enwau.
Yn y goleu hwn, nid yw y cyfeiriad at "brintio ysgafn bethau" a Hanes y gwragedd" namyn gwawdiaeth gudd. Rhyw fodd lledchwith o awgrymu pa beth yn ol ei fedr a ddylasai gyhoeddi—ei fedr yn ol syniad Lewis Morris am dano.
Er ein bod yn darllen yn o helaeth rhwng llinellau'r llythyr hwn, fe allai fwy nac sydd i'w ddarllen, mae'r ddwy linell gywydd yn poeni peth ar ein cy-