wreinrwydd. Gadawn i'r darllennydd gymeryd y gair "hirddysg" yn y wedd a farno oreu. Ond a yw "hardd" fwy na chellwair barddonol? Un "tirion, Ilonydd," ac felly nid dyn bychan bywiog,. oedd Ismael Dafydd yn ol Ieuan Glan Geirionnydd. A da y gwyddai ef. ydyw Lewis Morris yn awgrymu mai un hardd, ac felly dyn o faintioli da ac ymddanghosiad prydferth, oedd Dafydd Jones? Hyn sydd wir, yr oedd rhai o'r hiliogaeth felly, a gall eu bod hwy yn meddu hyn o dystiolaeth am eu gwreiddyn.
Y flwyddyn nesaf oedd 1758. Wele'r dodrefn gwaith yr oedd Dafydd Jones yn ymdroi rhyngddynt,—cwnstabl a chlochydd Trefriw; cadw ysgol; cywiro'r wasg yn nygiad allan y Flodeugerdd;" casglu enwau tanysgrifwyr; gwerthu llyfrau; casglu ac adysgrifennu gweithiau hen feirdd a hen draddodiadau,—a'r oll er cynnal "rhawd" o blant. A rhwng yr oll yn ol yr uchod yn chwilio "beunydd am bysg." Ond mae gronyn o ffaith o dan law bardd yn ymchwyddo'n fynydd ambell waith. Felly gall nad oedd y chwilio "beunydd am bysg" yn rhan mor bwysig o'i fywyd wedi'r oll, os