Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad oedd ei fywyd wyrth o brysurdeb. A phe gwir opiniwn Gwilym Lleyn, treuliai oes o amser yn y tafarnau yn gwagedda yn ol arfer y dyddiau hynny.

Yn haf 1759 ymsefydlodd Ieuan Brydydd Hir yn Nhrefriw. Dyddiodd ei lythyr cyntaf oddi yno Tach. 29, 1759. Wele i Ddafydd Jones o'r diwedd gymydog oedd iddo hefyd gydymaith. Yr oedd Ieuan yn llosgi gan dân y deffroad newydd y deffroad llenyddol yn ddolen o'r gadwen honno gychwynodd yn y Morrisiaid a Goronwy trwy Owen Myfyr a Iolo Morgannwg hyd Lyfrgell Genedlaethol ein dyddiau ni.

Amser o waith caled o chwilio llyfrgelloedd ac adysgrifennu eu trysorau oedd ei arhosiad yn Nhrefriw. Felly hefyd Dafydd Jones. Yr oedd y ddau wedi dechreu ar eu gwaith yn hollol ar wahan i'w gilydd, yn neilltuol felly Dafydd Jones, yr oedd ef hynach yn y gwaith na Ieuan. Eto nid ydym yn awgrymu fod Ieuan ddyledus am gyfeiriad ysbryd ei waith i Ddafydd Jones. Yn rhai o lythyrau'r Prydydd Hir cawn gyfeiriadau dyddorol at Ddafydd Jones a'i amgylchiadau. Wrth ysgrifennu at