Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhisiart Morus, os nad hyn oedd amcan yr ysgrifennu, dadleuai trosto gan ddywedyd,—

"Yn y cyfamser, dyma Dewi Fardd yn deisyf araf ysgrifenu atoch yng nghylch y llyfrau a ddanfonodd ef atoch i Lundain. Y mae yn deisyf cael gwybod pa gyfrif o naddynt a werthwyd. Y mae mewn eisiau cael y peth y mae'r byd hwn yn unfryd yn ymewino am danynt, sef arian. Atolwg gadewch iddo gael gwybod a oes modd na gobaith iddo gael gwared oddi wrthynt mewn amser gweddus, sef yw hynny, oddi yma i Galan Mai o'r eithaf. Os ydych yn tybied nad oes modd yn y byd i'w gwerthu, nid oes dim i'w wneuthyr ond danfon am danynt yn ol i'r wlad drachefn, lle y mae gwedy gwerthu'r cyfan er ys dyddiau; ond y mae ef yn gobeithio y byddwch mor fwyn a dyweyd o'i blaid, wrth y Cymmrodorion, i'w ysgafnhau ef o'r baich hwn. Pa fodd bynnag, y mae yn ymholi arnoch am ateb allan o law, a rhyw hanes o honynt. A minau, yr hwn wyf dyst golwg o'i gyflwr a'i ansawdd ef yma, wyf ym dymuned yr un peth.[1]

Ym mhen pump neu chwech wythnos mae cenadwri fwy galarus fyth yn cael ei hanfon i'r un fan. Ai ofni colled oddi ar law'r Llundeinwyr diofal, ynte gwir wasgfa oedd yr achos, anhawdd penderfynu. Gall fod elfen o'r blaenaf yn y

  1. Llythyr 8, Rhag. 3ydd, 1760.