Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gŵyn, oherwydd fod un o'r arweinwyr i ryw amcan wedi ei chollfarnu gyda'r fath rwysg dialw am dano. A chan ei bod wedi ei llwyr werthu yn y wlad, os oedd gweddill, doeth oedd eu cael i'r farchnad cyn tewi o'r galw am danynt.

"ANWYL GYFAILL.—Myfi a ysgrifenais lythyr atoch es dyddiau yng nghylch llyfrau Dewi Fardd ac ni chefais i nac yntau yr un ateb gennych. Dyma fi yn dod unwaith drachefn i'ch blino. Ertolwg, byddwch mor fwyn, er trugaredd, a golygu gronyn tuag at werthu ei lyfrau, oherwydd dyma ef dan gwynfan yn deisyf arnaf ysgrifenu atoch. Pur helbulus yw Dewi druan, â gwraig a rhawd o blant bychain ganddo, sef chwech neu saith. Y mae yn achwyn bod arno ddyled, ac eisiau modd i dalu ei ardreth; ac am hynny y mae yn gobeithio yr ystyriwch wrtho. Dyma fi, yn ol fy addewid, yn ysgrifenu atoch, ac nid oes geny.f ddim ychwaneg i'w wneythyr."[1]

Mae'r rhawd plant bychain yn wir cyson a'r hanes am eu rhif, ond mae'r "bychain" air oddef ei esbonio. Yr oedd ganddo chwech o blant, a chredu fel y dylid, fod Sion ei gyntafanedig wedi marw; o herwydd yr oedd ganddo bellach Sion arall yn y teulu. Nid oeddent

  1. Llythyr 9. Ion. 14, 1761.