Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor "fychain" ac y mynn Ieuan i ni gredu, o leiaf ni ddylasent fod. Yr oedd Elizabeth yn 19 mlwydd oed; Jane yn 17; Ann yn 14; Catrin yn 10; Sion yn 7; ac Ismael yn 4.

Nid mor ieuainc, na mân chwaith mae'n debyg; gallasai tair o honynt yn yr oes honno fod yn ceisio gwneyd rhywbeth er ennill eu bara. Pa fodd bynnag, yr uchod yw'r ddadl dros werthu'r llyfrau. Ym mhen y ddeufis ceir cyfeiriad arall at y llyfrau fel a ganlyn,—

"ANWYL GYFAILL,—Mi a dderbyniais yr eiddoch o'r degfed o'r mis yma a da iawn yw hyny genyf o achos neges Dewi Fardd, yr hwn oedd yn barod i ddeisyf arnaf ysgrifenu y tryd—ydd llythyr atoch. You are to send David Jones his books back by the Chester waggon, and return the money in hand to Mr. John Williams at Gwydir, near Llanrwst. He is the Duke of Ancaster's steward there."[1]

Mae "return the money in hand to Mr. John Williams at Gwedir," yn dangos yn lled amlwg lle yr oedd y llaw oedd yn gwasgu, arian y nenbren chwedl yr hen bobl, sef y rhent, heb eu talu. Yr oedd eu dull o fasnachu'n drwyadl ddigon, "steward" Dafydd Jones yn Llundain

  1. Llythyr 10, Mawrth 21, 1761.