Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn anfon yr arian yn uniongyrchol i steward Duc Ancaster yng Nghymru. A phwy na wel yn hyn awydd gonest am gael ei hun yn rhydd o afaelion poenus dyled? Yn rhagymadrodd y Cydymaith Diddan ceir dwy linell o goffadwriaeth yr amseroedd hyn, wedi eu hysgrifennu yn 1766. Mae swn gofid ynddynt y pryd hwnnw, a rhaid y buasent fwy felly pe'n cael eu hysgrifennu yn eu hamser priodol eu hun,—

"Ym gael fy ngholledu uwch ugain punt, am Lyfr y Blodeugerdd; a chyda hyny ddigwydd i mi ddirfawr glefyd."

Rhwng popeth, nid rhyfedd ei fod yn dioddef oddi wrth y "Coler Du," y pruddglwyf, gan son fod terfyn ei einioes bron yn y golwg.

Pa bryd y bu Gwen Jones ei wraig farw, ni welais gofnodiad; ond rhaid y digwyddodd rhwng 1765 a 1770. Yn un o'r ysgriflyfrau fu yn ei feddiant ceir y llinellau canlynol,—

"Y mae fy nghalon i cyn drymed
Ac na fedrai brofi tamed
Nag yfed chwaith un math o ddiod
O wir alar am fy mhriod. D. J."