Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dod ymgais Duw nid angen
Am Ne i minne Amen. D. J."[1]

< Anhawdd rhoddi fawr o hanes ei gysylltiadau cymdeithasol yn yr amser hwn. Yn ol Goronwy bu ef ac Elis y Cowper yn ymladd gornest farddol â beirdd Mon. Rhaid yr adwaenai'r Cowper yn dda, oherwydd nid oedd mwy na thair milltir rhwng Trefriw a phen cadlys y Cowper; ac yn nyddiau olaf Dafydd Jones bu peth ymwneyd masnachol rhyngddynt â'u gilydd. Yn ol Goronwy Owen, eu cydoeswr, yr oedd y ddau o'r un dosbarth o feirdd. Prin y gwyddai Goronwy o ba ddosbarth yr oeddynt, gan ei fod ef yn estron i fywyd Cymru hyd yn oed cyn ei fyned i'r America. Yr oedd Dafydd Jones, er barn Goronwy, lawer gwell bardd nac Elis Roberts y Cowper, a llawer nes i ddosbarth y Morrisiaid fel llenor. Pwy ond hwy a'i gwnaeth yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion?

O leiaf nis gallasai neb ei aelodi yn y Gymdeithas honno yn groes i'w hewyllys. Ac OS oedd "Dafydd o Drefriw," fel ei galwyd gan Oronwy,[2] yn ddim amgenach

  1. Additional MSS. Amgueddfa Brydeinig, Press Mark 17973.
  2. Gronoviana, Llythyr 33.