Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nag Elis y Cowper, rhaid nad oedd rhan o Gymdeithas y Cymrodorion o radd a bonedd uchel iawn, ac fod llawer math o ddynion yn aelodau o honi. Ond gall mai cellwair wedi colli ei ddiniweidrwydd yw'r darn hwn o feirniadaeth.

Ceir y sylwadau canlynol gan Wilym Lleyn,[1]

"Yr oedd Hugh Jones, Llangwm, Dafydd Jones o Drefriw, ac Elis Roberts, y Cowper, yn gyfoeswyr, ac yn gyfeillion gwresog. Crach brydyddion oedd y tri, a hoff iawn o gwmni Syr John Heidden; a'r tri yn fath o ddigrifwyr; canent yn ddigrifol a chellweirus, yn ol fel y byddai y cwmni, ac yn aml gwnaent wawd o bethau crefyddol. Y mae eu gwaith yn gymysg o bob athrawiaeth, a llawer o sawr Pabaidd ar garolau Hugh Jones."

Mae'r sylwadau uchod yn gryfion, a meiddiaf ddatgan barn eu bod anghywir a disail. Amcenais er y dechreu gadw fy marn rhag troi'n rhagfarn o blaid nac yn erbyn ; ond teg yw rhoddi i bawb ei gymeriad moesol a llenyddol ei hun, os mewn modd yn y byd y gellir hynny. Pell ydym o gyhuddo Gwilym Lleyn

  1. Llyfryddiaeth y Cymry, tud. 450.