Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim ond camgymeriad mewn barn, ond yn unig nad da ffurfio barn galed uwch ben defnyddiau prin.

Ni ddywedaf air yn erbyn "crach-brydyddion," a chaniatau fod graddau rhwng "crach-brydyddion." Rhaid fuasai i Wilym Lleyn addef hyn, os darllennodd weithiau Dewi Fardd ac Elis y Cowper. Gwir na chanodd Dafydd Jones fawr, os dim, gwir farddoniaeth; ac nad oedd llawer o'i gerddi yn ddim amgen na syniadau crefyddol lled gyffredin wedi eu gosod ar gân. Ond onid oes degau o ddynion, nad ystyrrir yn grach-brydyddion, yn euog o'r un anfadwaith? Yr oedd ei iaith ambell waith yn anghywir ac anystwyth, yn cynnwys llawer o eiriau salw a degau o ffurfiau gwerinaidd. Hyn hefyd oedd hanes beirdd ei oes. Ceir toraeth o eiriau gwerinaidd gan Huw Morus; a diolch am danynt, er fod gormod o honynt mewn ambell gân. Hefyd, canent yn ddigrifol a chellweirus sydd saeth ar antur. Methais, er chwilio'n ddyfal, weled yr elfen ddigrifol a chellweirus yng ngweithiau Dafydd Jones, oddigerth rhyw gyfeiriad achlysurol. Credaf fod ei natur yn amddifad o'r elfen ddymunol hon. Ymddengys