Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai o nodweddion arddull Twm o'r Nant, yr arddull roddodd gymaint bri ar y bardd hwnnw ac yntau arni hithau, yng nghân "Ymddiddan y Gwragedd" yn y "Cydymaith Diddan." Nid digrifol honno, ond miniog. A faint o'r min oedd waith ei awen ef anhawdd penderfynu; ei thrwsio a wnaeth.

Yr un yw ein barn parth gwawdio pethau crefyddol. Yn yr oll welsom, nid oedd y duedd leiaf i'r wedd honno o ganu. Eithr yn hollol i'w gwrthwyneb, canodd lawer o fân ganeuon crefyddol, fel pe'n canu ei brofiad ar y pryd. Yn hyn yr oedd beth tebyg i'r Diwygwyr Methodistaidd, sef canu ambell brofiad. Ond yn ei fesurau cadwai at y drefn eglwysig, heb ddangos un arwydd o gynefindra â'r mesurau oedd yn dod i arfer trwy'r Diwygiad. Os oedd rhyw fai, ac yr oedd bai, tuedd ei lyfrau oedd bod yn ofergoelus grefyddol. A thrwy funud o ystyriaeth gwelir yn amlwg nad mynych y ceir neb ofergoelus grefyddol yn gwawdio ei ofergoelion ei hun. Oherwydd mae ofergoeledd fel rheol yn camddefnyddio rhai o deimladau goreu dyn, sef ei barch i bethau crefyddol.