"Y teulu hynod haeledd,
Da haelion lu diwaeledd,
Sydd yma yn byw gyfannedd,
Bur weddwedd rwyddedd rai;
Egorwch eich golygon,
Cewch weled yn wych wiwlon,
Iawn gydfryd hyd y goedfron,
Gantorion mwynion Mai.
"Fe ddaeth yr Haf blodeuog,
Wych rinwedd at eich rhiniog,
Edrychwch mor feillionog
Yw'ch meusydd rywiog rai;
A'r Adar drwy gyttundeb,
Sydd wyneb oll yn wyneb,
Ffrwyth enau mewn ffraethineb,
Yn atteb mwyndeb Mai.
BYRDWN.
"Bendithia, Dad trag'wyddol,
Sior ap Sior frenhinol,
A phump o'i blant olynol,
Rhagorol reiol ryw;
Dau saith o wyrion hefyd,
A ninau bawb drwy'r holl fyd,
Bid i ni wir gyrhaeddyd
Dedwyddfyd gyda Duw.[1]
Ceir chwech arall o benhillion yn dilyn, o'r un nodwedd a natur. Paham yr oedd eisiau byrdwn i ofyn am fendith ar "Sior ap Sior frenhinol" mewn mol-
- ↑ Blodeugerdd, 306—8.