Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awd i Fai sydd anhawdd ei ddeall, oddigerth fod ei deyrngarwch, fel popeth arall, yn adfywio a blodeuo o dan awelon balmaidd ei fis. Gedy i'w awen grwydro peth, a heibio'r farn a'r adgyfodiad cyn diwedd ei gerdd, er y gallasai'n hawdd ofera mwy nag ehedeg i gael trem ar y gwanwyn—a mwyned Mai y gwanwyn hwnnw.

Ceir ganddo nifer o garolau,—" Carol Plygain am Enedigaeth a Dioddefaint. Iesu, i'w ganu ar y Ffion felfed"; "Carol Clais y Dydd"; "Odlau'r Oesoedd";

Gwys Plygeiniol i Folianu Duw,"—oll yn y Flodeugerdd. Mae'r oll rai hyn i raddau o'r un natur a'r caneuon crefyddol cyntaf a nodasom. O bosibl fod eraill o'i waith yn y Flodeugerdd, canys amheuir ai nid ei eiddo ef yw'r rhai nodir fel wedi eu codi o Lyfr Dab Sion, sef Dewi ap Sion.

Saerniodd lawer o englynion, fel rheol yn gywir o ran cynghanedd, ond yn aneglur ac yn amddifad o bertrwydd anhebgorol englyn da. Ceir ar ddechreu'r Flodeugerdd Englynion Cyflwyniad gan Ieuan Brydydd Hir, David Ellis, a Dewi Fardd ei hun, ac yn anffodus rhoddodd ei eiddo ei hun yn gyntaf, os oedd anfonedd-