Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

igeiddrwydd yn hynny hefyd. Wele hwynt,—

"Blodeugerdd iowngerdd awengu,—hynod
Ei henwir drwy Gymru;
Da ei fwriad er difyrru
Gomer lwyth digymmar lu.

"Mae Prydain gywrain ei gwaith,—yn amlwg
Yn ymyl estroniaith
Asiad enwog sidanwaith,
Od yw a mwyn weuad maith.

"Derbyniwch mynnwch i'ch mysg—farddoniaeth
Fawr ddeunydd o addysg;
Diau gemwaith digymmysg,
Gywir wiw ddawn gwyr o ddysg.

"Odiaethol fuddiol a fydd,—y canu
Er cynnal awenydd;
Dir llonna bob darllenydd
A'i naws da bob nos a dydd.

"Nag aros ond dos i dai,—gwyr anwyl
Gwyr enwog a'th garai;
N' ad i alldud o'i dylldai,
Olud dy fyth wel'd dy fai.

"Na ddos yn agos i neb,—o dylwyth
Sy'n dilyn casineb;
Myn wenu mwyn ei wyneb
Sawl eura ei serch mal aur Sieb."

"Ar ddiwedd "Histori Iesu Sanctaidd" ceir englynion perthynasol i'r llyfr,—