Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe wel y darllennydd nad oedd "John Prys, Philomath," yn olygydd neilltuol fanwl ar lythrennau a sillnodau, pa mor fanwl bynnag ei sylw o'r ser. Ar y ddalen nesaf ceir englynion

"I Annerch Ioan ap Rhys, Philomath."

"Astronomydd sydd ys wiw,—odiaethol
Wyt weithian o'r cyfryw;
Rwi'n d'annerch ar lannerch liw
Yn dryfrith hyn o Drefriw.

Sywedydd gwledydd gu lwys,—iawn ydych
Un odiaeth a chymmwys;
Tra gwiwlan trwy aeg wiwlwys
O ddysc a dawn addysc dwys.

"Graddau'r planedau a'i gwreiddin,—gweddaidd
Gwyddost hwy yn ddibrin;
Am y tywydd wyt iwin
Amor-hawdd am y wir hon.

Mynediad rhediad y rhodau,—nefol
A nifer planedau;
Arwyddion yr holl raddau
Yn wiw i gyd yna'r gwau.

"Gwiwlan a diddan bob dydd,—iw'th lyfrau
A'th lafur di beunydd;
Mewn maenol ac mewn mynydd,
Dyfal daith dy fawl a fydd.