Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Iechyd a hawddfyd o hedd,—a fytho
I'th faethu'n gyfanedd
Da anno Duw dy rinwedd
Itti fyth hyd at dy fêdd."

DAFYDD JONES.[1]

Yn rhifyn Medi CYMRU 1903, ceir tipyn o waith barddonol Dafydd Jones wedi ei godi o'i lawysgrif sydd ym meddiant y Parch. R. Jenkin Jones, M.A., Aberdâr, lle y canmola y Morisiaid a Goronwy Owen. Rhydd Carneddog, yn yr un cylchgrawn, englynion wedi eu codi o almanaciau John Prys.

Rhag blino y darllennydd ymataliwn, gan ein bod wedi nodi digon i'w alluogi i ffurfio barn drosto ei hun. Ystyriwn, pa faint bynnag feddyliai Dewi Fardd o'i awen a'i chynhyrchion, nad o herwydd hon yr haedda glod. Yr oedd ef o'r dosbarth o feirdd na feddant fedr i dorri llwybrau newydd i'w traed fel y gwnaeth Goronwy Owen. A mawr oedd eu han—ffawd. Rhaid oedd iddynt ganu cywyddau ac englynion clod byw a marw, neu ganu penhillion yn arddull Huw Morus. oedd y llwybrau hynny yn sych-gochion,

  1. Almanac John Prys, 1771.