Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI. CREFYDD DAFYDD JONES.

Yr oedd dau beth amlwg yn ymdorri allan yn barhaus yn ysgrifeniadau Dafydd Jones o Drefriw,—ei sel dros yr Eglwys, neu dros wedd Gymreig yr Eglwys, a'i brofiadau crefyddol. Ni cheir un arwydd iddo deimlo dim o ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd, oedd yn allu moesol ac ysbrydol mor gryf yn ei amser. Diau y gwyddai am dano; ac os gellir cymeryd ei ddistawrwydd fel tystiolaeth, yr ystyr yw ei fod yn amheus o ba le yr oedd, ond barchus yn ymatal rhag ei gondemnio, neu ei fod yn ei gymeradwyo, ond oherwydd ei gysylltiadau yn tewi a son, yr olaf hwn fwyaf tebyg. Cyfeiriodd yn barchus at Griffith Jones Llanddowror. Nid felly'r Morrisiaid. Gwawdiasant hwy, yn ddifloesgni, y Diwygiad a'r Diwygwyr, felly hefyd Ieuan Brydydd Hir.

Er nad oedd llawer o raen grefyddol ar gymeriadau Ieuan Brydydd Hir, Goronwy Owen, a rhai o'r Morrisiaid, yr oeddynt yn Eglwyswyr selog, yn credu'n ddiysgog yng nghyfaddaster y drefn eg-