Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lwysig er hyrwyddo crefydd, ac yng Nghymru y dylasai fod yn hollol Gymreig yn ei holl fywyd. Yr oeddent yn bendant yn erbyn yr elfen Saesnig, yr hon ar y pryd oedd yn difwyno bywyd yr Eglwys mewn llawer cylch, a'r Saeson oedd yn byw'n ddiwaith mewn bywoliaethau Cymreig. Aethant mor bell a dwyn cynghaws yn erbyn gŵr o Sais benodwyd i fywoliaeth Trefdraeth, Mon, a hwy a orfuant. Nid culni gwladgarol oedd eu sel. Os oedd gulni o gwbl, culni Eglwysig oedd, —os gellir galw sel dros eglwys eu calon yn gulni hefyd. Yr oeddent wedi deall un elfen o'r anhwyldeb ddifaodd nerth yr Eglwys yng Nghymru, ac mewn pryd yn codi eu llef dros ei feddyginiaethu. Pe buasai'r Eglwys yng Nghymru ar y pryd wedi gwrando eu cenadwri mae'n amheus a fuasai canlyniadau'r Diwygiad Methodistaidd yn hollol yr hyn fuont. Fel hwynt, felly hefyd Dafydd Jones. Gan ei fod ef lawer mwy o apostol y bobl na'r arweinwyr, felly yr oedd lledaenu'r teimlad hwn ymhlith y werin lawer mwy ei waith ef. Wele ddarn miniog o'i waith,—

"Ai ni fedr ef ddim Cymraeg? Na fedr air. Pa ddaioni a wna ef yn ei esgobaeth pan