Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn neillduol ymosod ar y drefn eglwysig a gamddefnyddid. Fel gŵr o farn, un peth yn ei olwg oedd y drefn eglwysig a pheth arall oedd ei chamarfer. Yn y llyfr "Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob cydwybod," mae'r frawddeg ganlynol,—"Ac oni fedri weddio, cais duchan o flaen Duw, ond gad ymaith dy lyfr gweddi oddi allan."

Yn yr argraffiad o'r llyfr uchod a gyhoeddwyd ganddo ef yn 1750 gadaw—odd allan, "ond gad ymaith dy lyfr gweddi oddi allan.' Gwelir felly nad amcanai ond at gamarferion niweidiol. oedd yn yr Eglwys.

Yr oedd gwybodaeth Dafydd Jones am lenyddiaeth grefyddol, a diwinyddiaeth ei amser, yn eang. Safai bron ar ei ben ei hun yn ei oes. Yn ei nodion ar waelod dail y Cydymaith Diddan" cyfeiriodd at rannau mewn 29 o wahanol lyfrau oedd yn cadarnhau gosodiadau'r llyfr —hwnnw, a'r rhai hynny yn llyfrau safonol yr amser hwnnw. Mae ei gyfeiriadau, nid yn unig yn profi'r pwnc, ond yn wir ddyddorol i'r hanesydd. Arferai osod i lawr ddyddiadau yr argraffiadau, a hynny yn gywir bob amser. Yn yr amrywiol lythyrau at y darllennydd a ysgrifennodd,.