Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

danghosodd lawer o gydnabyddiaeth ag amrywiol lyfrau crefyddol, ac hefyd â'r Beibl. Amcanodd brofi ei osodiadau ag adnodau. Er ei fod yn profi ambell bwnc nad oedd fater cydwybod iddo ef na'i ddarllenwyr, nid oedd hynny yn bychanu dim ar ei gydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau. Cyhoeddodd amryw lyfrau crefyddol, er esiampl, chwedlau Nicodemus a thraddodiadau'r Tadau yn "Histori yr Iesu Sanctaidd." Yr oeddent fel cyffredin lyfrau'r amser, ac yn llai ofergoelus na llawer. A pha beth bynnag am gymeriad llenyddol y Flodeugerdd, y mae ei thôn foesol uwchlaw amheuaeth. Amcanodd at y moesol bur, yn ol ei osodiad ei hun, beth bynnag am y coeth lenyddol. Os yw ei charolau a'i cherddi yn amddifad o farddoniaeth, mae eu tôn grefyddol yn amlwg ddigon. Meddai yn ei ragymadrodd,—

"Rwy'n gobeithio nad oes yn hyn o lyfr ddim a wna niwed i grefydd neb. Os wyf yn adgyfodi gwagedd ac yn hau llygredigaeth, yr wyf yn y camwedd yn gymaint a'r gwyr a wnaeth y gwaith."

Os ydynt yn ymddangos yn lled ddi-farddoniaeth yn ein golwg ni heddyw, bai