Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beirdd y farddoniaeth rydd oedd hynny. Yn wir, Williams Pant y Celyn, yn ei emynnau, oedd y cyntaf i ganu'n rhydd farddoniaeth gyfriniol dlos, y wedd honno ystyrrir heddyw'n farddonol.

Nodwedd lled amlwg ym mywyd Dafydd Jones yw tuedd at fod yn ofergoelus. Nid yn unig ysgrifennodd lawer o ofergoelion llafar gwlad yn ei ysgriflyfrau; ond, ysywaeth, coeliodd hwy hefyd. Digon naturiol. Yr oedd y tylwyth teg yn y wlad yn ei oes ef, yn dawnsio ar foreau haf, oni byddai cylchau gwyrddion ar y meusydd yn ol eu traed ysgeifn. Ymguddiai ysbrydion yn y ceubrennau, a llechent o dan gysgodion y coed tewfrig. Ac yr oedd ambell hen blas mwyn yn ddim amgen na chastell brad, lle trigai rhyw ysbryd effro, yn gwylio'n barhaus am gyfle dial rhyw alanas. Ymataliodd yn rhagorol rhag cyhoeddi'r chwedlau hyn, er iddo ysgrifennu toraeth o honynt.[1]

Thos. Price, Yswain, fu'n creu y ffeithiau sydd yn yr ysgrif-lyfrau ; John Davies

  1. Ceir rhai yn CYMRU, Medi, 1903. Gwelir, yn enwedig, ei nodiadau ar Gamfa Hwfa a'r Allor Goch yn Llyn Dulyn.