Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn oes Dafydd Jones ei hun yn eu hail chwilio, gan gadarnhau eu bod yn wir; a Dafydd Jones yn credu'r holl wrachiaidd chwedlau. Mae'r holl ddesgrifiad o lun Dulyn a'i bysgod yn bob peth ond gwir, a dylasai Dafydd Jones wybod hynny, gan fod y Dulyn heb fod nepell o'i gartref. Ond pa wahaniaeth? Onid rhywbeth tebyg yw hanes ofergoelion pob oes a gwlad?

Ceir ganddo hefyd lawer o gynghorion llawer mwy anffaeledig na meddyginiaethau yr oes hon, yn unig mai anffaeledig i un peth oeddent. Wele feddyginiaeth rad at dynnu dant,—

"Cymer lyffant melyn o'r dŵr fis Mawrth neu fis Mai, a berw mewn dŵr, a dod dy fys yn y dŵr hwnnw. Cyffwrdd y daint a fynnech ac ef a syrth o'ch pen." [1]

Yr un modd yr oedd yn ofergoelus yn ei anianawd grefyddol, heb feddu fawr o ysbryd Puritanaidd ei amser a'r amseroedd blaenorol. Felly nid oedd coelion y Canol Oesoedd, oedd eto heb gilio'n llwyr

  1. Yr ydym yn copio'r uchod o CYMRU, Medi, 1903, yno gall y darllennydd weled llawer chwaneg.