GWAE fi na wyr y forwyn.
Glodfrys, a'i llys yn y llwyn,
Ymddiddan y brawd llygliw .
Amdani y dydd heddiw!
Mi a euthum at y brawd
I gyffesu fy mhechawd.
Iddaw'dd addefais od gwn
Mai eilun prydydd oeddwn;
A'm bod erioed yn caru
Rhiain wynebwen aelddu;
Ac na bu im o'm llofrudd
Les am unbennes, na budd;
Ond ei charu'n hir wastad,
A churio'n fawr o'i chariad,
A dwyn ei chlod drwy Gymry,
A bod hebddi er hynny,
A dymuno ei chlywed
I'm gwely rhof a'r pared.
Hebr y brawd wrthyf yna,
"Mi a rown it gyngor da:
O cheraist eiliw ewyn,
Lliw papir, oed hir hyd hyn,
Llaesa boen y dydd a ddaw,
Lles yw i'th enaid beidiaw,
A thewi â'r cywyddau,
Ac arfer o'th baderau.
Nid er cywydd nac englyn.
Y prynodd Duw enaid dyn.
Nid oes o'ch cerdd chwi y gler
Ond truth a lleisiau ofer,