Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac annog gwŷr a gwragedd
I bechod ac anwiredd.
Nid da'r moliant corfforawl
A ddyco'r enaid i ddiawl."

Minnau atebais i'r brawd
Am bob gair ar a ddywawd:
"Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion.
Ni chyll Duw enaid gŵr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tripheth a gerir drwy'r byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd.
Merch sy deca' blodeuyn
Yn y nef ond Duw ei Hun!
O wraig y ganed pob dyn.
O'r holl bobloedd, ond tridyn.
Ac am hynny nid rhyfedd
Garu merched a gwragedd.
O'r nef y câd digrifwch,
Ac o uffern pob tristwch.
Cerdd a bair yn llawenach
Hen ac ieuanc, claf ac iach.
Cyn rheitied i mi brydu
Ag i tithau bregethu,
A chyn iawned im glera
Ag i tithau gardota.
Pand englynion ac odlau
Yw'r hymnau a'r segwensiau?
A chywyddau i Dduw lwyd
Yw llaswyr Dafydd Broffwyd.
Nid ar un bwyd ac enllyn
Y mae Duw yn porthi dyn.