Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Amser a rodded i fwyd
Ac amser i olochwyd,
Ac amser i bregethu,
Ac amser i gynganeddu.
Cerdd a genir ym mhob gwledd.
I ddiddanu rhianedd,
A phader yn yr eglwys
I geisio tir Paradwys.
Gwir a ddywad Ystudfach,
Gyda'i feirdd yn cyfeddach,
Wyneb llawen, llawn ei dŷ,
Wyneb trist, drwg a ery.'
Cyd caro rhai santeiddrwydd
Eraill a går gyfanheddrwydd.
Anaml a wyr gywydd pêr,
A phawb a ŵyr ei bader.
Ac am hynny'r dwyfawl frawd,
Nid cerdd sydd fwyaf pechawd.
Pan fo cystal gan bob dyn
Glywed pader gan delyn,
A chan forynion Gwynedd.
Glywed cywydd o faswedd,
Mi a ganaf, myn fy llaw,
Y pader fyth heb beidiaw.
Hyd hynny, mefl i Ddafydd
O chân bader ond cywydd."
"Dos o'r byd a'th gywyddau!"
"Dos dithau i ffwrdd i'r poenau!"
"Dos di i boen a phenyd!"
"Dos dithau frawd du o'r byd!"
"Dos di i boen uffernawl!"
"Dos dithau, frawd, i law ddiawl!"