Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y Breuddwyd.

FAL yr oeddwn, gwyddwn gêl,
Yn dargwsg mewn lle dirgel,
Gwelais yn ôl dichlais dydd.
Breuddwyd yn ael boreddydd.
Gwelwn fy mod yn rhodiaw
A llu o filgwn i'm llaw,
Ac i fforest yn gestwng,
Teg blas, nid tŷ taeog blwng.
Gollyngwn i yn ddioed,
Debygwn, y cŵn i'r coed.
Clyw-wn oriau, lleisiau llid,
Canu'n aml, cŵn yn ymlid.
Ewig wen uwch y llennyrch,
A welwn, carwn y cyrch,
A rhawt fytheiaid ar hynt
Yn ei hôl, iawn eu helynt.
Cyrchu'r allt dros ddiwalldrum,
A thros ddwy esgair a thrum,
A thrachefn dros y cefnydd
Ar hynt 'run helynt â'r hydd.
A dyfod wedi dofi
Yma yn ddig, i'm nawdd i,
Dwyffroen noeth, deffro wnaethum,
Wr glwth, yn y bwth y bûm.
Chwiliais yn ôl dichlais dydd.
Bob ryw gongl am ddehonglydd.
Cefais hynafwraig gyfiawn,
Pan oedd ddydd, yn ddedwydd iawn.
Addef a wnaethum iddi
Goel nos, fal y gwelwn i.